Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Mawrth, 16 Medi 2014

 

 

 

Amser:

09.00 - 10.43

 

 

 

Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://www.senedd.tv/Meeting/Archive/268f82b9-610c-4e25-9ad9-385443778695?autostart=True

 

 

Cofnodion Cryno:

MeetingTitle

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

Darren Millar AC (Cadeirydd)

William Graham AC

Mike Hedges AC

Alun Ffred Jones AC

Julie Morgan AC

Jenny Rathbone AC

Aled Roberts AC

Sandy Mewies AC

 

 

 

 

 

Tystion:

 

Emma Giles, Swyddfa Archwilio Cymru

Steve Martin, Swyddfa Archwilio Cymru

Mike Usher, Swyddfa Archwilio Cymru

Matthew Mortlock, Swyddfa Archwilio Cymru

Michael Palmer, Swyddfa Archwilio Cymru

Martin Peters, Swyddfa Archwilio Cymru

Andy Phillips, Swyddfa Archwilio Cymru

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Michael Kay (Clerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

 

 

<AI1>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.

</AI1>

<AI2>

1    Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.

 

</AI2>

<AI3>

2    Papurau i’w nodi

2.1 Nodwyd y papurau yn amodol ar y camau gweithredu canlynol:

 

·         Cofnodion y cyfarfod blaenorol (15 Gorffennaf 2014): Gofynnodd Sandy Mewies i'w datganiad fel cymrawd o Brifysgol Glyndŵr gael ei nodi.

·         Gofal heb ei drefnu: Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (24 Gorffennaf 2014): Cytunodd y Pwyllgor i ailystyried agweddau ar y mater hwn yn gynnar yn 2015. 

·         Ymdrin â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol mewn Llywodraeth Leol:  Llythyr gan June Milligan (22 Gorffennaf 2014): Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at y Gweinidog dros Wasanaethau Cyhoeddus yn gofyn am ei safbwynt ar bartneriaethau cydweithredol, ad-drefnu awdurdodau lleol a chostau cysylltiedig.

·         Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Dr Peter Higson (29 Gorffennaf 2014): Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Is-gadeirydd yn BIPBC yn gofyn am ragor o wybodaeth ynghylch gwelliannau sy'n ymwneud â heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd. Byddai trefniadau llywodraethu'n cael eu hystyried yn ddiweddarach yn y tymor a BIPBC yn cael ei ailystyried yn 2015.

·         Rheoli Grantiau yng Nghymru: Llythyr gan Syr Derek Jones (11 Awst 2014): Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol yn gofyn a oes modd rhannu gyda'r Pwyllgor unrhyw ystyriaeth bellach o'r materion sy'n codi o achos AWEMA gan fod yr achosion troseddol bellach wedi dod i ben.

 

 

 

</AI3>

<AI4>

2.1  Gofal heb ei drefnu: Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (24 Gorffennaf 2014)

 

</AI4>

<AI5>

2.2  Ymdrin â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol mewn Llywodraeth Leol: Llythyr gan June Milligan (22 Gorffennaf 2014)

 

</AI5>

<AI6>

2.3  Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Dr Peter Higson (29 Gorffennaf 2014)

 

</AI6>

<AI7>

2.4  Memorandwm ar gyfer Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (4 Awst 2014)

 

</AI7>

<AI8>

2.5  Rheoli Grantiau yng Nghymru: Llythyr gan Syr Derek Jones (11 Awst 2014)

 

</AI8>

<AI9>

2.6  Cyllid addysg uwch: Llythyr gan Swyddfa Archwilio Cymru at Mike Hedges AC (15 Awst 2014)

 

</AI9>

<AI10>

2.7  Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon:  Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau (20 Awst 2014)

 

</AI10>

<AI11>

3    Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant

3.1 Cytunodd y Pwyllgor y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at William Graham  fel Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes i rannu ymateb Llywodraeth Cymru a nodyn yr Archwilydd Cyffredinol er mwyn cynorthwyo eu hymchwiliad. Bydd y llythyr yn pwysleisio pryderon y Pwyllgor ynglŷn â chyfran y bobl ifanc a ystyrir i fod yn NEET yn y grŵp oedran 19-24 oed ynghyd â phryderon ynghylch casglu a rhannu data. Gofynnodd y Pwyllgor am y wybodaeth ddiweddaraf gan y Pwyllgor Menter a Busnes pan fydd wedi cwblhau'i waith a bydd y Pwyllgor wedyn yn ystyried ymhellach a yw'n dymuno ymgymryd ag unrhyw waith ei hun ar y mater hwn.

 

 

</AI11>

<AI12>

4    Y Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)

4.1 Ystyriodd y Pwyllgor y llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a chytunwyd y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Alun Ffred Jones fel Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, gyda chopi'n cael ei anfon at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, gan ofyn bod y pwyntiau a godwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol sy'n ymwneud â'i bwerau a chyfrifoldebau yn cael eu hystyried wrth i'r Pwyllgor graffu ar y Bil.

 

</AI12>

<AI13>

5    Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn: Trafod yr ymateb gan Lywodraeth Cymru

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru a chytunwyd y dylid ceisio cael diweddariad yng ngwanwyn 2015. Erbyn hynny, dylai'r cytundeb newydd fod wedi cael ei ddyfarnu. Cytunodd y Pwyllgor hefyd y dylai'r Cadeirydd, yn y cyfamser, ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddi rannu'r wybodaeth y mae'n gallu gyda'r Pwyllgor ynglŷn â chwmpas, cynnwys, methodoleg ac amserlen adolygiad ARUP yn ogystal â'r ddogfen dendro ar gyfer y gwasanaeth awyr.

 

</AI13>

<AI14>

6    Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

</AI14>

<AI15>

7    Glastir: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru

7.1 Cyflwynodd staff Archwilydd Cyffredinol Cymru sesiwn friffio ar yr adroddiad ar Glastir. Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru a fydd yn cael ei rannu gyda'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd. Bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd gan gynnwys ymateb Llywodraeth Cymru, pan ddaw i law.

 

</AI15>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>